Mae gweddw’r cyn-Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, a fu farw flwyddyn yn ôl, yn ceisio annog yr Uchel Lys i roi’r hawl iddi herio’r ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal i’r ffordd y cafodd ef ei drin gan Brif Weinidog Cymru.

Mae disgwyl i farnwr yn Llundain glywed cais newydd am adolygiad barnwrol gan Bernie Sargeant heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 13).

Mae ymchwiliad i’r ffordd y cafodd Carl Sargeant, a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru, ei ddiswyddo gan Carwyn Jones eisoes wedi cael ei ohirio wrth i’r frwydr gyfreithiol barhau.

Cafodd Carl Sargeant, 49, ei ddarganfod wedi’i ladd ei hun fis Tachwedd y llynedd, ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’r Cabinet yn dilyn honiadau ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol.

Mae ei deulu’n honni na chafodd y cyn-Aelod Cynulliad wybod am y cyhuddiadau yn ei erbyn yn llawn, gan eu bod hefyd wedi arwain at ei wahardd o’r Blaid Lafur.

Herio

Dywed cyfreithwyr y teulu eu bod nhw’n herio nifer o benderfyniadau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, a bod rheiny’n cynnwys y penderfyniad i “atal cyfreithwyr y teulu rhag croesholi tystion”, yn ogystal ag “atal tystiolaeth lafar rhag cael ei chlywed yn gyhoeddus”.

Maen nhw hefyd yn herio hawl yr ymchwilydd annibynnol i “atal aelodau o’r teulu rhag cael mynediad i wrandawiadau”.

“Credwch fi, wir, dydyn ni ddim yn ceisio achosi rhwystr,” meddai’r teulu. “Yr hyn ydan ni ei angen ydi’r gwir – ac rydan ni’n teimlo bod gan yr ymchwiliad hwn lawer i’w gynnig.

“Dydan ni ddim eisiau cael ein gwahardd.”

Ymateb Carwyn Jones

Mewn ymateb, dywed llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru nad oedd hi erioed yn fwriad i wneud yr ymchwiliad yn un cyhoeddus, na chwaith yn ymchwiliad i farwolaeth Carl Sargeant.

“Fe sefydlodd y Prif Weinidog yr ymchwiliad o’i wirfodd ei hun, ac yn benodol er mwyn archwilio’n annibynnol yr hyn a wnaeth ac a benderfynodd mewn cysylltiad â Carl Sargeant ar adeg yr adrefnu o fewn y Cabinet fis Tachwedd y llynedd,” meddai’r llefarydd.