Mae gwleidyddion wedi ymateb yn ffyrnig a dilornus i’r syniad bod David Cameron eisiau dychwelyd i’r byd gwleidyddol.

Mae papur newydd The Sun fod y cyn-Brif Weinidog wedi dweud wrth ffrindiau ei fod yn llygadu swydd yr Ysgrifennydd Tramor, wrth iddo ystyried dychwelyd i reng flaen byd gwleidyddiaeth.

Mae dwy flynedd ers i David Cameron adael Rhif 10 yn dilyn canlyniadau’r refferendwm ar Brexit, pan benderfynodd gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ers clywed y sibrydion diweddaraf, mae Aelodau Seneddol wedi ymateb  yn ffyrnig, gyda’r rhan fwyaf yn galw arno i gadw draw.

“Na, David… fe wnest ti achosi digon o ddifrod y tro diwethaf,” meddai’r Aelod Seneddol Llafur, Angela Rayner, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Aelod Seneddol Llafur arall yn dweud bod David Cameron yn waeth na Boris Johnson.

“Fe wnest ti ddinistrio ein partneriaeth ryngwladol agosaf – trwy ddamwain,” meddai Yvette Cooper.

“Mae hynny’n dy wneud yn waeth na Boris Johnson.”