Mae un o gyn-wleidyddion amlycaf Plaid Cymru wedi derbyn dedfryd ohiriedig am greu delweddau anweddus o blant.

Daw’r ddedfryd yn dilyn achos yn Llys Ynadon y Wyddgrug heddiw (Hydref 31).

Mae wedi derbyn 26 wythnos o garchar sydd wedi’i ohirio am gyfnod o ddwy flynedd.

Bydd ei enw hefyd yn cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddwyr rhyw am y saith mlynedd nesaf.

Roedd y gŵr 54 oed a fu’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd, ac yn Aelod Seneddol tros Geredigion cyn hynny, wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Roedd y rheiny’n cynnwys creu 150 o ddelweddau Categori A, 103 o ddelweddau Categori B, a 359 o ddelweddau Categori C.