Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am Brif Weithredwr newydd, wrth i’r Llyfrgellydd Cenedlaethol presennol ymddeol o’r swydd ar ôl tair blynedd.

Ac fe fydd yn rhaid i olynydd Linda Thomas fod yn barod i “drawsnewid” y sefydliad yn Aberystwyth, a gwneud yn siwr ei fod yn addas ar gyfer pobol yr 21ain ganrif.

Fe fydd yr yngeisydd llwyddiannus yn cyflog o £92,025 y flwyddyn.

Gweledigaeth

“Bydd disgwyl i’r person delfrydol chwarae rhan allweddol wrth arwain y Llyfrgell i wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol yn ystod y blynyddoedd nesaf,” yn ôl Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas.

Mae’r swydd yn dod yn wag reit ar ganol cyfnod Cynllun Strategol 2017-2021 y Llyfrgell, a gafodd eig reu er mwyn trawsnewid y sefydliad a’i ddatblygu’n Archif Genedlaethol, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Mae pwyslais mawr ar fynediad y cyhoedd i’r hyn sydd ynghadw gan y Llyfrgell Genedlaethol. Holl bwrpas y cynllun blaenorol, ‘Gwybodaeth i bawb’ (2014-2017), oedd edrych ar ehangu mynediad a chynyddu faint o bobol sy’n ymweld – yn y cnawd, a thrwy’r we.

Y Llyfrgell

Sefydlwyd y Llyfrgell ym 1907 ac mae ei chasgliadau’n eang ac yn amrywiol.

Mae’n lle sy’n casglu gwybodaeth am Gymru, pobol Cymru a’r cenhedloedd Celtaidd.

Mae’n cael ei hariannu drwy gymorth grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer swydd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yw Tachwedd 16.