Mae un o hyfforddwyr tîm pêl-droed West Ham wedi cael ei ddiarddel o’i waith ar ôl cyfaddef iddo gymryd rhan mewn digwyddiad Islamoffobaidd yn Llundain.

Wrth ymateb i negeseuon ar Twitter, dywedodd Mark Phillips, sy’n hyfforddi’r tîm ieuenctid, ei fod e’n rhan o’r orymdaith a gafodd ei threfnu gan y Democratic Football Lads Alliance.

Diben yr orymdaith oedd protestio yn erbyn jihadwyr, trin cyn-filwyr fel bradychwyr, ffoaduriaid yn mynd ar goll ac o blaid trugaredd i bedoffiliaid, ynghyd ag epidemig troseddau â chyllyll.

Ers yr helynt, mae Mark Phillips wedi cuddio’i negeseuon ar Twitter, a hynny ar ôl gwadu bod y grŵp yn perthyn i’r asgell dde eithafol.

Cafodd ei negeseuon eu trosglwyddo i ymgyrch gwrth-hiliaeth y byd pêl-droed, Kick It Out, oedd wedi tynnu sylw Cymdeithas Bêl-droed Lloegr atyn nhw.

Ond ar ôl penderfynu nad oedd Mark Phillips wedi torri unrhyw reolau, cafodd y mater ei drosglwyddo i’w gyflogwyr, Clwb Pêl-droed West Ham.

Datganiad

Mewn datganiad, mae Clwb Pêl-droed West Ham yn dweud ei fod yn “glwb cynhwysol”.

“Beth bynnag fo eu rhyw, oed, hil, gallu, crefydd neu rywioldeb, mae croeso cynnes i bob cefnogwr o fewn ein dalgylch eang ddod i Stadiwm Llundain, ac i fwynhau gwylio’u tîm yn chwarae pêl-droed heb ofn, gwahaniaethu na sarhad,” meddai’r datganiad.

“Dydyn ni ddim yn goddef unrhyw fath o drais nac ymddygiad ymosodol, ac fe ddylai pob cefnogwr deimlo’n ddiogel, wedi’i barchu ac wedi’i gynnwys ym mhob agwedd ar fywyd y clwb.”