Mae’n bosib y byddai Gwynfor Evans wedi methu ag ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yn 1966, petasai Denzil Evans wedi ei ddewis yn ymgeisydd i’r Blaid Lafur.

Dyna farn, Gwynoro Jones, y gŵr a gipiodd Caerfyrddin yn ôl i’r Blaid Lafur yn etholiad seneddol 1970 – ac a gollodd y sedd i Gwynfor Evans yn 1974.

Gwilym Prys-Davies oedd yr ymgeisydd a safodd ar ran y Blaid Lafur yn yr hen etholaeth yn 1966, ac mae Gwynoro Jones yn gweld hynny fel camgymeriad.

“Dyma’r conundrum mawr,” meddai wrth golwg360. “Sgwn i a fyddai Gwynfor [Evans] erioed wedi ennill yn erbyn Denzil?

“Dw i’n sicr y byddai Denzil wedi gwneud gwell job, ac y bydde fe wedi cael pleidlais tre Caerfyrddin oherwydd mai o Gynwyl Elfed oedd e’n dod.

“Does dim dowt gyda fi y bydde fe wedi bod llawer agosach. A phwy a ŵyr? Gallai bod Denzil fod wedi ennill.”

Gog

Denzil Davies a Gwilym Prys Davies oedd ar y rhestr fer ar gyfer y sedd, ond mi roedd “holl fudiad y Blaid Lafur” yn cefnogi’r ail ymgeisydd, meddai Gwynoro Jones.

Roedd Gwynoro Jones wedi helpu Gwilym Prys Davies i ganfasio adeg yr ymgyrch, ac mae e’n tybio mai rhwystr ieithyddol oedd yn bennaf gyfrifol am ei golled.

“Doedd pobol ddim yn ei ddeall e,” meddai. “Roedd e o’r gogledd, yn ogleddwr rhonc. Doedd pobol y Cymoedd glo a Chwm Gwendraeth ddim yn deall ei iaith ef.

“Doedd dim llawer ar radio a theledu fel sydd heddiw. Doedd pobol Sir Gâr ddim yn cyfarfod â phobol gogledd Cymru mor aml â hynny, yn ôl yn y dyddiau hynny!”

Roedd Denzil Davies ar y llaw arall yn hanu o Gynwyl Elfed, ger Caerfyrddin, ac yn siarad Cymraeg ag acen ddeheuol. Byddai hynny wedi bod o fantais iddo, yn ôl Gwynoro Jones.

“Gallu mawr”

Wrth edrych yn ôl ar yrfa Denzil Davies, mae Gwynoro yn ei ganmol am ei “allu mawr”, ac mae’n dadlau bod hynny wedi sbarduno teimlad o rwystredigaeth ynddo’i hun.

“Os ydych yn edrych ar ei hanes ef, fe oedd un o’r galluocaf o Aelodau Seneddol Cymru o bell ffordd,” meddai. “Does dim dadl am hynny. Ac roedd pawb yn cydnabod hynny.

“I raddau, oherwydd hynny, dw i’n credu yr oedd Denzil ychydig yn siomedig ei fod wedi methu â mynd ymhellach yn ei yrfa.

“Fe fuodd e’ yn y Trysorlys wrth gwrs ar ddiwedd y 1970au. Ond ar ôl hynny, fuodd yna ddim Llywodraeth Lafur tan amser Tony Blair.”

“Hen Lafur”

Roedd Denzil Davies yn wleidydd o’r “hen Lafur”, yn ôl Gwynoro Jones, a oedd yn gwrthwynebu sawl sefydliad gan gynnwys y Cynulliad.

“Y siom fwyaf am Denzil, gyda’i allu a’r holl bethau hynny, oedd bod ddim llawer o ddiddordeb gyda fe ym materion cyfansoddiadol Cymru,” meddai. “Doedd e ddim yn ei gynhyrfu e ddigon.

“Roedd e’n eithaf claear ar ddatganoli. Dw i’n cofio fe’n dweud wrtha i unwaith nad oedd e’n rhy hoff o’r Cynulliad.”

Roedd Denzil Davies, mae’n debyg, yn poeni am safon y cynrychiolwyr fyddai’n cael eu penodi i’r Cynulliad, ac roedd yn poeni hefyd am safon y dadleuon.

“Fel mae e wedi troi mas, roedd e gant y cant yn ei le!”, meddai Gwynoro Jones â thafod yn ei foch – cyn ychwanegu ei fod ef ei hun yn “gefnogol dros ben” i ddatganoli.