Mae S4C wedi amddiffyn y penderfyniad i ddangos cyfweliad Katie Hopkins ar y we ond nid ar y teledu.

Yn y rhifyn diweddaraf o raglen Guto Harri, Y Byd yn ei Le neithiwr, fe wnaeth y rhaglen grybwyll yr ymateb sydd wedi bod ar y we i’r cyfweliad gwreiddiol, gan ddangos clip byr ohono.

Yn y clip, mae Guto Harri yn gofyn i Katie Hopkins a oes ganddi “compulsively obnoxious syndrome”.

Wrth ddadansoddi ei hateb, dywed y cyflwynydd fod y gwestai “wrth ei bodd yn corddi”, ond fod sut ddylai’r gynulleidfa ymateb yn “gwestiwn teg”. Eglura bod “risg o roi llwyfan pellach” i safbwyntiau dadleuol fel sydd gan Katie Hopkins.

Ymateb S4C

Wrth droi at y stori ar ddiwedd y rhaglen eto nos Fawrth (Hydref 3), cafodd ymatebion nifer o bobol eu dangos.

“Yn dilyn ymateb eithriadol ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfweliad Guto Harri gyda Katie Hopkins yn rhaglen Y Byd yn ei Le, penderfynwyd rhyddhau y cyfweliad yn gynnar ar y we ddydd Mercher,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth golwg360.

“Gan fod y cyfweliad felly’n gyhoeddus aed ati yn rhaglen neithiwr i drafod yr ymateb gan edrych ar sut mae trin pynciau gydag unigolyn sy’n rhannu barn.

“Bu trafodaeth rhwng dau berson gydag un yn dweud na ddylid rhoi llwyfan ar unrhyw gyfrif, ac yna dadl mai’r unig ffordd i ddelio gyda newyddion ffug a safbwyntiau atgas yw herio a thrafod gan roi’r ochr arall i’r ddadl.”

Gallwch wylio’r cyfweliad yma:

Cefndir a beirniadaeth

Cafodd ITV Cymru eu beirniadu am gynnal y cyfweliad â’r newyddiadurwraig ddadleuol, ar ôl iddi hithau ennyn tipyn o feirniadaeth am ei hymgyrch yn erbyn addysg Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn cynnwys cyhuddo Llywodraeth Cymru o orfodi’r iaith ar blant.

Gofynnodd hi a yw’r Saesneg wedi’i gwahardd yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru, a hynny yn ystod ymweliad â’r wlad.

Wrth roi’r is-bennawd, ‘Parthed Addysg Cyfrwng Cymraeg Orfodol’, aeth yn ei blaen i ofyn, “A yw’r Saesneg wedi’i gwahardd fel cyfrwng sgwrs yn ystafell ddosbarth eich plentyn?”

Mewn cwestiwn pellach, gofynnodd, “A yw eich plentyn wedi’i effeithio?” cyn holi eto, “Ydych chi’n addysgwr cartref yng Ngheredigion?”