Mae cyn-wleidydd Plaid Cymru, Simon Thomas wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant

Mae wedi ymddangos gerbron Canolfan Gyfiawnder Aberystwyth fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 3) i wynebu’r cyhuddiadau.

Fe blediodd yn euog o greu 150 o ddelweddau Categori A, 103 o ddelweddau Categori B a 359 o ddelweddau Categori C.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon yn yr Wyddgrug yn ddiweddarach y mis hwn.