Fe fydd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn “rhoi llais cryfach i bobol ifanc yn nyfodol ein cenedl”, meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

Yn dilyn dadl ar Hydref 10, bydd Aelodau Cynulliad yn cael cyfle i bleidleisio ar gynlluniau a fydd yn cyflwyno newidiadau cyfansoddiadol i’r ffordd y mae’r Cynulliad yn gweithio.

Ymhlith y newidiadau mae gostwng yr oedran pleidleisio a newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru/Welsh Parliament’.

Os bydd y cynlluniau’n cael eu cymeradwyo, bydd deddfwriaeth newydd yn cael ei pharatoi, ac mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu rhoi’r newidiadau ar waith erbyn 2021.

Mae’r cynigion hyn yn deillio o adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan yr Athro Laura McAllister fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd yr un adroddiad yn nodi bod angen rhwng 20 i 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol ar y Cynulliad.