Huw Prys Jones yn trafod yr her sy’n wynebu arweinydd newydd Plaid Cymru …

Wrth ethol Adam Price, does dim amheuaeth fod gan Blaid Cymru bellach arweinydd mwy dawnus ac ysbrydoledig.

Er mai fo oedd yr olaf i ymuno â’r ras, mae wedi bod yn weddol amlwg dros yr wythnosau diwethaf mai fo oedd yr ymgeisydd fyddai’n cario’r dydd.

Yn y pen draw, nid yw’n syndod bod ei gyfuniad o ddawn i ysbrydoli, ei brofiad a’i barodrwydd i feddwl o’r newydd yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol iddo.

Ar yr un pryd, dydi hynny ddim yn golygu bod problemau Plaid Cymru wedi cael eu datrys dros nos.

Does yr un gwleidydd yn gallu creu gwyrthiau, waeth pa mor huawdl ydyn nhw.

Mae ganddo her enfawr o’i flaen i geisio cael trefn ar y blaid mae’n ei harwain.

Brwydr Brexit

 Y dasg gyntaf sydd gan arweinydd newydd Plaid Cymru ei wneud ydi dangos arweiniad tipyn mwy cadarn yn erbyn llanast Brexit.

Cafodd y tri ymgeisydd ddigon o gyfle i ddoethinebu ymysg aelodau Plaid Cymru ynghylch eu breuddwydion am annibyniaeth i Gymru dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd hynny’n ddigon hawdd. Y flaenoriaeth i Adam Price rŵan ydi ysbrydoli ei aelodau i chwarae rhan yn frwydr go-iawn sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Nid digon bellach ydi datgan cefnogaeth i refferendwm arall – mae angen chwarae rhan weithredol yn yr ymgyrch dros bleidlais o’r fath. Dylai fod Plaid Cymru yn mynd ati o ddifrif i annog eu haelodau a’u cefnogwyr o bob rhan o Gymru i’r rali fawr yn Llundain ar 20 Hydref.

Mae angen llawer mwy o siarad diflewyn ar dafod am dwyll a chelwyddau ymgyrchwyr Brexit, a llai o gyfeiriadau truenus at ‘barchu canlyniad y refferendwm’.

Hunaniaeth Gymreig

 Mae angen i’r arweinydd newydd sicrhau bod pawb o wleidyddion Plaid Cymru yn llawn sylweddoli oblygiadau posibl Brexit i hunaniaeth Gymreig, yn ogystal â’r peryglon economaidd amlwg.

Does fawr o amheuaeth fod y syniad o Gymru fel rhan o rywbeth mwy na’r wladwriaeth Brydeinig wedi bod yn allweddol yn y twf mewn ymwybyddiaeth genedlaethol dros y degawdau diwethaf.

Mae cynnal cysylltiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol â thir mawr Ewrop yr un mor allweddol i’n cenedligrwydd â faint o bwerau sy’n cael eu datganoli i Gymru. Dyma’r unig obaith o dorri rhywfaint o oruchafiaeth Lloegr a’r Saeson ar yr ynysoedd hyn.

Troi’r cloc yn ôl i genedligrwydd Cymreig fydd unrhyw gamau i ynysu’r wladwriaeth Brydeinig, a does gan y mudiad cenedlaethol yng Nghymru ddim dewis ond gwneud popeth yn ei allu i’w llesteirio.

Rhaid derbyn y gwir plaen hefyd fod y frwydr yn erbyn Brexit yn un sy’n gorfod cael ei hymladd drwy’r ynysoedd hyn, ac mai ofer ydi dychmygu bod modd eithrio Cymru o’i effeithiau.  Allwn ni ddim gwadu prun bynnag ydi bod y refferendwm wedi dangos llai o apêl i deyrngarwch cenedlaetholgar Eingl-Brydeinig mewn dinasoedd fel Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt nag mewn llawer i ardal ôl-ddiwydiannol yng Nghymru.

Os mai’r Brexitwyr mwyaf eithafol fydd yn yn ennill y frwydr dros y misoedd nesaf, mi fyddai’r syniad o Gymru annibynnol yn Ewrop yn troi o fod yn hynod annhebygol i gwbl amhosibl. Ac yn wyneb goruchafiaeth anferthol y Saeson a Lloegr ar Brydain gwbl annibynnol, rhaid fyddai amau hefyd faint o werth fyddai unrhyw ‘annibyniaeth’ i Gymru mewn sefyllfa o’r fath prun bynnag.

Herfeiddiol

 Mi fydd gofyn i’r arweinydd newydd fanteisio ar bob cyfle i sicrhau bod Plaid Cymru’n wneud safiadau herfeiddiol yn erbyn Brexit.

Fel un cam cyntaf, mi fyddwn i’n awgrymu anfon dirprwyaeth o Blaid Cymru ar ymweliad swyddogol ag Iwerddon i ddangos cefnogaeth y mudiad cenedlaethol yng Nghymru i safiad y Taoiseach yn erbyn ail-greu ffin o fewn Iwerddon. A rhoi anogaeth clir iddo beidio ag ildio modfedd i’r sefydliad Seisnig sydd wedi rheibio cymaint ar ei wlad ar hyd y canrifoedd.

Mi fyddai datganiadau fel hyn yn sicr yn ffordd o ail-ennyn brwdfrydedd cefnogwyr cyffredin Plaid Cymru sy’n cael eu cythruddo’n ddyddiol gan genedlaetholdeb Eingl-Brydeinig Brexit.

Ond yn fwy na hynny, mi fyddai’n gyfle hefyd i ddirmygu ar goedd y math o genedlaetholdeb sy’n seiliedig ar syniadau hen-ffasiwn am sofraniaeth ac ar godi waliau a ffiniau. Mi fyddai’n fodd o ddangos y mudiad cenedlaethol yng Nghymru fel rhan o brif ffrwd gwleidyddiaeth oddefgar, flaengar a rhesymol ac addas i’r 21ain ganrif.

Yn ystod ei yrfa wleidyddol, mae Adam Price wedi profi sawl gwaith ei barodrwydd i fentro. Wrth i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru brofi un o’r argyfyngau mwyaf yn ei hanes, does dim amheuaeth fod yr arweinydd newydd ar fin cychwyn ar fenter fwyaf ei fywyd.