Mae aelod o adran ieuenctid Plaid Cymru yn pryderu am dwf ‘poblyddiaeth’ – populism – o fewn y mudiad cenedlaethol.

Mewn erthygl ar wefan Plaid Ifanc, mae Polly Manning yn amlinellu ei gofidion, gan ddadlau bod pobol â’r agweddau yma yn “dilorni pryderon menywod a lleiafrifoedd”.

A hithau’n Swyddog Menywod o fewn Plaid Ifanc, mae hi hefyd yn poeni bod materion menywod a lleiafrifoedd yn cael eu hystyried yn “faterion niche”.

“Y materion hyn [yw’r] union beth fydd yn annog pobol ar draws cymdeithas Cymru i ddod yn rhan a’r prosiect dros annibyniaeth i Gymru ei hunan,” meddai Polly Manning.

“Wedi’r cyfan, mae’r materion ‘niche’ hyn – sy’n ganlyniad o anghydraddoldebau yn ein cymdeithas – yn effeithio pob un yn ein gwlad, yn uniongyrchol neu fel arall.”

Niche?

Mae peth trafod wedi bod ymhlith aelodau etholedig y blaid tros ei chyfeiriad – ac ynglŷn â’r syniad o ‘faterion niche’ – dros y misoedd diwetha’.

Ym mis Gorffennaf, mi wnaeth yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, gyhuddo arweinydd y blaid, Leanne Wood, o ganolbwyntio’n ormodol ar ‘faterion niche.

A’r wythnos diwethaf, mi ymatebodd Leanne Wood i feirniadaeth o addysg Gymraeg gan nodi ar Twitter: “Dyma pam mae’n rhaid i ni sefyll fyny dros ‘faterion niche’.

Ar ddechrau’r mis hwn mi bleidleisiodd Plaid Ifanc yn eu Cyngor Cenedlaethol “i wrthsefyll galwadau i ddistewi ar faterion lleiafrifol.”