“Peidiwch ag ymddiried yn y sefydliad niwclear” yw neges un o gerddorion roc amlyca’i genhedlaeth, wrth iddo baratoi i herio cynllun dadleuol yn ne’r wlad.

Mae Cian Ciaran yn aelod o fand y Super Furry Animals, ac mae’n un o’r grŵp o bobol sydd yn paratoi i fynd â’r mater i’r llys – cyn y mae disgwyl i’r llwyth cyntaf o fwd niwclear gyrraedd ddydd Iau yr wythnos hon (Medi 6).

Dan y cynllun mi fydd tunelli o fwd yn cael ei godi o safle gorsaf bŵer Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn ne-orllewin Lloegr, ac yna yn cael ei daflu yn y môr ger Bro Morgannwg.

“Rhaid ailfeddwl”

“Nid ‘tystiolaeth o ddiffyg’ yw diffyg tystiolaeth,” meddai Cian Ciaran, “felly rhaid ail-feddwl am hyn. Rhaid i wleidyddion a llunwyr polisi wneud y peth iawn er lles y bobol.

“Mi allai fod goblygiadau pellgyrhaeddol i hyn. Felly pam na allwn gael ateb clir ynglŷn â natur y mwd? Dyma enghraifft arall o ba mor ddi-glem mae Llywodraeth Llafur Cymru.

“Eu nod yw gadael gwaddol o ddinistr,” meddai wedyn. “Mae eu sarhad yn dangos nad yw datganoli yn gweithio i Gymru ar hyn o bryd. Dw i wedi laru ar yr esgusodion a’r diffyg atebolrwydd.”