Mae cyn-Aelod Seneddol Llafur wedi’i wahardd o’r blaid, yn dilyn sylwadau honedig a wnaeth ar-lein am y gymuned Iddewig.

Fe ddaw yn dilyn neges yr oedd Jim Sheridan yn honedig gyfrifol amdani a oedd yn trafod ei fod wedi “colli parch a’r gallu i uniaethu” gyda’r gymuned, o ganlyniad i’r ffraeo o fewn y blaid am wrth-Semitiaeth.

Mae cyn-AS Paisley a Gogledd Swydd Renfrew yn yr Alban bellach yn gynghorydd yn yr un ardal.

Mae wedi’i wahardd heddiw (dydd Sadwrn) wedi i’r blaid yn ganolog dderbyn cwyn am y neges ar-lein.