Mae “angen dathlu tywysogion Cymru yn fwy eang”, yn ôl y Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas.
Daw ei sylw wrth iddo lansio llyfryn newydd ar gyfer ymwelwyr “gwir gestyll Cymru” – hynny yw, cestyll a chafodd eu hadeiladu gan dywysogion Cymru.
Mae’r llyfryn yn cynnwys 24 castell, ynghyd a safleoedd hanesyddol eraill, ac ar gael ar holl safleoedd corff cadwraeth Llywodraeth Cymru, Cadw.
Tywysogion Cymru
“Gwir gestyll Cymru imi yw’r rheiny a adeiladwyd gan Gymry enwog y gorffennol: Llywelyn, yr Arglwydd Rhys a Glyndwr, ymhlith eraill. Tywysogion Cymru a frwydrodd yng Nghymru a thros Gymru gan helpu i lunio’r Gymru a’r Cymreictod a welwn ni heddiw.
“Rwyf wedi bod yn benderfynol o hyrwyddo’r cestyll hyn a’u harwyddocâd i’n hanes a’n diwylliant yn well.”