Mae’r cyflwynydd teledu, Alun Elidyr wedi cael ei anrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am ei gyfraniad i fyd amaeth.

Yn bennaf adnabyddus am ei waith cyflwyno ar raglen Ffermio ar S4C, fe dreuliodd beth amser yn actio cyn dychwelyd at fyd amaeth yn y 1990au.

Ar farwolaeth ei dad ei 1996, fe ddychwelodd adref er mwyn gwneud yn siwr fod y fferm yn aros yn nwylo Cymry, a bod y ffordd o fyw yn parhau yn Cae Coch, Rhydymain ger Dolgellau.

Amddiffyn y ffermwr

“Os am ydach chi am i rywun wneud rhywbeth, gofynnwch i berson prysur ac mae Alun yn enghraifft berffaith o hyn,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Yn ffermwr bîff a defaid llawn amser, cyflwynydd un o’r rhaglenni amaethyddol mwyaf poblogaidd ar y teledu, nifer o swyddi gwirfoddol yn ei gymuned leol ac ar lefel genedlaethol – mae’n gwneud popeth â gwên a’r croeso mwyaf.

“Does ganddo ddim ofn amddiffyn y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae yn ein bywydau bob dydd ac i gadw olwynion ein heconomi i droi ac mae’n gwneud hynny ar bob cyfle posib ac ar bob lefel,” meddai. ” Ychydig iawn sydd â’r ymroddiad a’r hyder i amddiffyn ein cymuned mor angerddol.”