Mae Felicity Evans wedi’i phenodi’n Olygydd Gwleidyddol newydd, BBC Cymru.

Yn wreiddiol o Lyn Ebwy, mae’r newyddiadurwraig wedi gweithio i adran newyddion BBC Cymru ers 1996.

Ar hyn o bryd, mae Felicity Evans yn cyflwyno Good Morning Wales a Good Evening Wales ar orsaf Radio Wales, ynghyd â rhaglenni i BBC Cymru.

Mi fydd hi’n olynu Nick Servini.

Cyffro

“Rwy’n teimlo wedi cyffroi ac yn freintiedig o gael fy mhenodi yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru,” meddai Felicity Evans.

“Mae gen i esgidiau mawr i’w llenwi, ond rwy’n lwcus fod gen i gymaint o gydweithwyr talentog ac ymroddgar i weithio ochr yn ochr â mi yn yr uned wleidyddol ac ar draws yr ystafell newyddion.”