Mae’r Aelod Cynulliad, Suzy Davies, wedi cyhoeddi ei bwriad i sefyll am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae wedi ymuno â’r ras am arweinyddiaeth y blaid ar ôl i Andrew RT Davies gyhoeddi ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ ei fod yn camu o’r neilltu.

Paul Davies, yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Preseli Penfro, yw’r arweinydd dros dro ar hyn o bryd, ac mae eisoes wedi datgan bod ganddo ddiddordeb yn y swydd.

Gyrfa

Mae Suzy Davies wedi bod yn aelod o’r Cynulliad ers 2011, pryd y cafodd ei hethol i gynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n llefarydd i’r Ceidwadwyr ar ddiwylliant, twristiaeth a’r iaith Gymraeg.