Mae’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried gosod cyfyngiadau ar un o’i haelodau, yn sgil pryderon am annibyniaeth farnwrol a thriniaeth ffoaduriaid yno.

Mae yna hefyd bryderon am ryddfreiniau’r cyfryngau yn Hwngari, a bellach mae’n ymddangos bod yr undeb yn awyddus i danio erthygl saith.

Petasai erthygl saith yn cael ei thanio, fe fyddai’r wlad yn colli ambell fantais o fod yn aelod o’r undeb.

Mae Pwyllgor Iawnderau Sifil y Senedd Ewropeaidd, eisoes wedi galw am roi dechrau ar y broses. Ond, er mwyn gwneud hynny, bydd angen i’r senedd gyfan gydsynio i’r cynnig.

Ac mae’n debyg bod hynny’n annhebygol, gan fod Gwlad Pwyl hefyd yn wynebu taniad erthygl saith yn eu herbyn, a’n debygol o roi feto ar unrhyw bleidlais.

Mae’r Comisiwn hefyd yn craffu ar gyfreithiau a gafodd eu pasio gan Hwngari’r wythnos ddiwetha’, sy’n gwahardd digartrefedd ac yn caniatáu carcharu pobol sy’n helpu ffoaduriaid.