Mae’n ymddangos fod miloedd o bobol yn teithio adref i Iwerddon o bob cwr o’r byd, er mwyn pleidleisio yn y refferendwm ar erthylu.

Mae’r gwefannau cymdeithasol yn llawn o bobol sy’n nodi eu bod ar eu ffordd o Dde America, India, Singapôr, yr Unol Daleithiau a Chanada, er mwyn torri eu croes yfory (ddydd Gwener, Mai 25).

Mae’n gyfle unwaith mewn oes i bobol ddweud eu dweud ar ‘Welliant 8’ yn y cyfansoddiad, sy’n gwahardd erthyliad yn llwyr. Mae disgwyl i’r canlyniad fod yn un clos iawn.

Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn Iwerddon yn ystyried hawl y fam a’r plentyn yn gyfartal, a bod bywyd y ddau yn gyfwerth – sy’n golygu fod miloedd o ferched bob blwyddyn yn teithio i wledydd Prydain ac i fannau eraill yn y byd i derfynu bywyd babi yn y groth.

Ond mae yna deimlad fod yna genhedlaeth o bobol iau sydd am weld y rheolau’n llacio er mwyn ystyried gwahanol amgylchiadau – fel mewn achos o dreisio; babanod fyddai ddim yn gallu byw y tu allan i’r groth; neu blant ag afiechydon genetig ac anableddau dwys iawn.

Mae’r modd y mae dylanwad yr Eglwys Gatholig ar fywyd yn Iwerddon wedi pylu, hefyd yn mynd i fod yn allweddol.

Mae nifer o bobol yn Iwerddon hefyd wedi bod yn defnyddio Twitter a Facebook i gynnig cymorth i’r rheiny sy’n dod adref. Mae Paraic O’Donnell, awdur The Maker Of Swans a The House On Vesper Sands, wedi cynnig gweithredu fel tacsi o faes awyr Dulyn er mwyn torri ar gostau teithio’r rheiny sy’n hedfan o bob cornel o’r byd.