Fe fydd Elin Jones yn canu clodydd Cynulliad dwyieithog yn ystod taith i Sbaen yr wythnos hon.

Mae Llywydd y Cynulliad yn teithio i Valencia ar gyfer traddodi anerchiad gerbron Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop, sy’n cynnwys seneddwyr Ewropeaidd ac arbenigwyr ieithyddol.

Bydd yn tynnu sylw at sut mae’r Gymraeg yn cael ei hybu a’i defnyddio gan y Cynulliad, a sut y mae’n greiddiol i ddemocratiaeth yng Nghymru.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod y Cynulliad yn meithrin ei berthynas â seneddau ar draws Ewrop,” meddai Elin Jones.

“Wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae diogelu’r gallu i rannu a dysgu am brofiadau cynulliadau Ewropeaidd eraill yn hanfodol os ydym am ddarparu’r gwasanaethau gorau i bobol Cymru.

“Mae’n bleser gennyf hyrwyddo ein darpariaeth arloesol o wasanaethau dwyieithog, ac rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa’n ystyried y cipolwg o’n cenedl ddwyieithog yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol.”

Catalwnia

Yn ogystal â’i hymweliad â Sbaen, bydd Elin Jones hefyd yn mynd i Senedd Catalwnia yn ninas Barcelona.

Yno, bydd yn cwrdd â’r Llywydd, Roger Torrent, ynghyd â chynrychiolwyr o Fflandrys a Gwlad y Basg.

Pwrpas ei hymweliad yno yw cryfhau’r cyswllt rhwng Cymru a seneddau gwledydd tramor. Mae hi eisoes wedi croesawu cynrychiolwyr diplomyddol o India, Gwlad Belg a Quebec fel rhan o’r un rhaglen.