Mae adroddiadau’n awgrymu bod yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, am ddatgan y bydd yn taflu ei het i’r cylch i fof yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Petasai’r Aelod Cynulliad yn gwneud hynny, ef fyddai’r ymgeisydd cyntaf i ddod i’r fei. Mae disgwyl iddo ddatgan ei fwriad yn swyddogol, yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 24).

Datgelodd Carwyn Jones y bydd yn camu o’r neilltu yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur dros y penwythnos, ac ers hynny mae sïon ar led am olynwyr posib.

Er mwyn medru ymgeisio am y swydd mae’n rhaid derbyn enwebiadau gan chwe Aelod Cynulliad, a hyd yma mae Mark Drakeford i weld â chefnogaeth ddigonol.

Mae sôn bod sawl un o gyd-weinidogion cabinet yr Ysgrifennydd hefyd yn llygadu’r rôl – yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, sydd fwyaf awchus, mae’n debyg.