Mae Cyngor Ynys Môn wedi bod yn estyn croeso i gynrychiolwyr o lywodraeth leol Indonesia yr wythnos hon.

Daw’r grŵp o 14 cynrychiolydd, dan arweiniad Henry Jhon Hutagalung, o brifddinas Sumatra, Dinas Median.

Mae’r grŵp wedi dod i Ynys Môn er mwyn dysgu mwy am lywodraeth leol, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad isadeiledd, addysg a systemau iechyd, ynni a gweithgynhyrchu.

Y tu hwnt i’r Cyngor wedyn, maen nhw hefyd wedi bod yn cyfarfod â swyddogion y cwmni Horizan, ynghyd ag ymweld â British Aerospace ym Mrychdyn a Thŷ’r Cyffredin yn Llundain, lle roedd ‘Diwrnod Ynys Môn’ yn cael ei gynnal gan yr aelod seneddol, Albert Owen.

Yn ymuno â’r grŵp yn ystod yr ymweliad hefyd oedd John Chamberlein o Glwb Rotari Caergybi, gan fod Clybiau Rotari yn Ynys Môn wedi ffurfio cysylltiadau cryf â Sumatra ers y tsunami yn 2004.

”Dangos cyfeillgarwch”

“Rydym yn falch iawn o groesawu ein cyfeillion o Sumatra a Mr [John] Chamberlein i Siambr y Cyngor,” meddai’r Cynghorydd Dylan Rees, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Ynys Môn.

“Rydym yn clywed cymaint am wrthdaro rhwng gwledydd y dyddiau yma, felly rhoddodd bleser mawr i mi weld dwy wlad wahanol iawn yn dangos cyfeillgarwch tuag at y naill a’r llall.”