Mae awdurdod yng ngorllewin Cymru yn annog trigolion i fod yn “ymwybodol” o alwadau ffug, yn sgil adroddiadau o alwyr yn honni eu bod o’r ‘Cyngor lleol’.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, maen nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau gan drigolion y sir yn dweud eu bod nhw wedi derbyn galwadau o’r fath.

Mae’r awdurdod felly yn rhybuddio pobol i fod yn “bryderus ac yn ymwybodol” o’r galwadau ffug hyn, ac y dylen nhw gysylltu â’r Cyngor ar unwaith.

“Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion i rannu’r neges yma gyda ffrindiau neu aelodau teulu sydd yn hen neu yn fregus,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o’r Cabinet dros Dechnoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Cwsmer.

“Cofiwch, os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, sgâm yw e, fel arfer.”