Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy o dros £200 ar ôl iddo adael bag sbwriel du ar y llawr mewn safle ailgylchu.

Fe gafodd Scott Clarkson o Nantgaredig ger Caerfyrddin ei orfodi i dalu £209 ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi gadael y bag sbwriel mewn safle ailgylchu yn Abergwili.

Fe gafodd y gŵr 47 oed ddirwy dipyn yn llai yn wreiddiol. Ond ar ôl iddo fethu â gwneud y taliad ar gyfer hwnnw, fe gafodd yr achos ei drosglwyddo o ddwylo’r cyngor i’r llys.

Ac yn Llys Ynadon Llanelli, fe blediodd yn euog, gyda’r barnwr yn ei orchymyn hefyd i dalu £68 mewn costau a £30 o ordal dioddefwr.

“Byddwn ni’n parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn pobol sy’n cael eu dal yn gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd.