Mae un o brif ddiplomyddion Rwsia wedi dweud bod y Kremlin yn paratoi “ymateb cryf” i’r cyhoeddiad gan yr Unol Daleithiau ddoe (Mawrth 26) y byddai 60 o ddiplomyddion o Rwsia yn cael eu gwahardd o’r wlad.

Hyd yn hyn, mae mwy na 130 o ddiplomyddion Rwsieg wedi cael eu gwahardd o’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill, a hynny mewn ymateb i’r ymosodiad a fu yn Sailsbury ddechrau’r mis, lle cafodd cyn-ysbïwr o Rwsia a’i ferch eu gwenwyno.

Mae Segei Skripal a’i ferch, Yulia, yn parhau mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Salisbury, ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yn y dref ar Fawrth 4.

Mae awdurdodau’r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau mai math penodol o nwy, sy’n cael ei gynhyrchu yn Rwsia, a gafodd ei defnyddio i’w gwenwyno, gan arwain at amheuon mai’r wlad honno oedd y tu ôl i’r ymosodiad.

Ac yn ôl Dirprwy Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Ryabkoc, a oedd yn siarad ar y cyfryngau yn Rwsia, mae’r Kremlin wedi’i siomi gan y cyhoeddiad ddoe gan yr Unol Daleithiau, gan ychwanegu y bydd “ymateb cryf” yn cael ei wneud.

Ond dyw Sergei Ryabkoc ddim wedi ymhelaethu ar y mater.