Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod mynd i’r afael â “phla tlodi” a “gwireddu ffyniant” ledled y wlad, yn “flaenoriaeth sylfaenol”.

Daw’r sylw yn sgil adroddiad sy’n dangos bod bron i chwarter o bobol yng Nghymru yn byw mewn tlodi – â 185,000 ohonyn nhw’n blant.

Yn y ddogfen mae Sefydliad Rowntree yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu rhagor o swyddi ac i greu rhagor o dai fforddiadwy, er mwyn lleddfu’r broblem.

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae eisoes ganddyn nhw gynllun sy’n gobeithio mynd i’r afael â thlodi yw trwy ddarparu “gwaith sy’n talu’n dda”.

Ac o ran tai fforddiadwy, mae’n debyg bod yna ymrwymiad i greu 20,000 tŷ fforddiadwy newydd yng Nghymru, erbyn 2021.

“I fynd i’r afael â sefyllfaoedd economaidd anffafriol, rhaid i bobo rhan o’r Llywodraeth gydweithio,” meddai’r llefarydd. “A dyma beth yr ydym yn gwneud trwy ein gwaith.”