Mae Cwnstabliaid Arbennig Heddlu Gwent a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi derbyn medal efydd mewn seremoni yn San Steffan.

Cawson nhw eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arloesedd a Thrawsnewid Genedlaethol iESE – mae’r wobr yn agored i unrhyw gorff cyhoeddus yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol neu breifat yng ngwledydd Prydain.

Mae Cwnstabliaid Arbennig Heddlu Gwent yn cynorthwyo gwaith cymunedol yr heddlu ac maen nhw wedi’u cydnabod am eu gwaith gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i fynd i’r afael â sefyllfaoedd lle mae’r heddlu’n bresennol, lle mae gofyn am driniaeth feddygol neu gyngor.

Mae eu gwaith yn galluogi’r heddlu i fynd i ddigwyddiadau mwy difrifol lle mae angen eu harbenigedd.

Cydweithio

Fis Mai 2016, aeth y Gwasanaeth Ambiwlans at Heddlu Gwent gyda’r bwriad o lansio cynllun peilot ar gyfer digwyddiadau lle byddai’r ddau wasanaeth yn cydweithio.

Fis Mawrth y flwyddyn honno, roedden nhw wedi cydweithio ar 2,249 o ddigwyddiadau ac o ganlyniad, cafodd uned ei sefydlu i weithio ar y cyd ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.

Mae’r uned yn gyfuniad o bedwar o barafeddygon a deg o gwnstabliaid arbennig, ac maen nhw’n cydweithio ar ddigwyddiadau mawr gan gynnwys Gwener Du, Nos Calan, Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt a gemau chwaraeon mawr yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Cwnstabl Arbennig, Gareth Chapman fod “parch at ein gilydd” ymhlith y gwasanaethau a bod “cyfeillgarwch mawr” rhyngddyn nhw.

Ychwanegodd Richard Lee o Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod y cynllun cydweithredol yn “enghraifft wych o weithio fel tîm ar draws asiantaethau” a bod y wobr yn “dyst i’r llwyddiant sydd wedi’i greu gan bawb”.