Mae plaid newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru sydd yn gobeithio dilyn trywydd pleidiau gwrth sefydliadol a phoblyddol (populist) yn Ewrop a ledled y byd.

Enw’r blaid newydd hon yw ‘Ein Gwlad’. Y Blaid Newydd oedd yr enw dros dro fydd yn fwy cyfarwydd i rai – ac yn ôl ei Chadeirydd, Gwilym ab Ioan, ni fydd yn arddel unrhyw adain wleidyddol.

“Yn syml iawn, plaid syncredig fyddwn ni,” meddai wrth golwg360. “D’yn ni naill yn arddel y dde, chwith na’r canol, nac unrhyw fath o steil yn yr hen ddull gwleidyddol.

“Y syniad yw ein bod yn dewis polisïau a’n gwneud penderfyniadau er lles Cymru a phobol Cymru yn unig.

“Dydyn ni ddim yn gwneud rhyw safbwynt ein bod yn sosialaidd neu’n bod ni’n adain chwith nac adain dde, neu beth bynnag. R’yn ni’n blaid sy’n cynrychioli’r bobol yng Nghymru er lles Cymru.”

Mae’n nodi bod adeiniau gwleidyddol yn gosod pobol dan labelu sy’n eu cyfyngu, ac mae’n tynnu sylw at ‘Fudiad Pum Seren’ o’r Eidal fel enghraifft o’r hyn y hoffai efelychu.

Ac mae’n ychwanegu bod “pob plaid sydd yng Nghymru ar hyn o bryd” i gyd yn gweithredu o fewn “patrwm” sydd wedi “chwythu’i phlwc”.

Lle mae’r blaid arni?

Er bod Gwilym ab Ioan yn dweud bod y blaid yn ceisio cadw pethau “dan y radar” ar hyn o bryd, mae’n datgelu ambell i fanylyn gan addo “bydd popeth yn dod i’r golau” yn fuan.

  • Mae Pwyllgor Llywio wedi’i sefydlu – pwyllgor o 12 aelod sy’n cynnwys “rhai sy’n flaenllaw mewn gwahanol feysydd”;
  • Yn ol Gwilym ab Ioan, mae “rhai cannoedd” eisoes wedi cofrestri yn gefnogwyr;
  • Ymhlith y cefnogwyr yma, mae’n nodi bod pobol o wahanol bleidiau – gan gynnwys cynghorwyr sydd wedi ennill etholiadau – a phobol “o Fôn i Fynwy”.

Dydi’r blaid ddim yn “brysio dim” i lansio, meddai.

“Ar ôl aros dros 700 mlynedd [am annibyniaeth], dw i ddim yn credu y bydd rhai misoedd yn gwneud llawer o wahaniaeth,” meddai Gwilym ab Ioan.

“Beth rydyn ni wedi gwneud ydi gwneud yn siŵr ein bod yn mynd gam wrth gam, a gwneud yn siŵr ein bod wedi sefydlu yn fewnol i ddechrau, cyn lansio.

“A gwneud yn siŵr ein bod yn broffesiynol yn y dull yr ydym yn gweithredu.”