Mae dadl yn cael ei chynnal yn y Cynulliad heddiw ynglŷn â’r amgylchiadau a arweiniodd at ddiswyddo’r Aelod Cynulliad, Carl Sargent, o gabinet Llywodraeth Cymru fis Tachwedd y llynedd.

Bydd y ddadl yn ceisio gorfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad i ymchwiliad a oedd yn ystyried oes oedd unrhyw wybodaeth am ad-drefnu’r Cabinet wedi’i rannu o flaen llaw heb ganiatâd.

Mae’n cael ei chynnal gan y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru, ac er i’r Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan, gyhoeddi’r mis diwethaf bod yr ymchwiliad wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw wybodaeth wedi’i rannu, mae’r pleidiau’n awyddus i wybod sut cafodd yr ymchwiliad ei gynnal.

Maen nhw’n galw felly am gyhoeddi’r adroddiad, a hynny heb ddatgelu enwau’r tystion a fu’n cymryd rhan ynddo.

Fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal ar ddiwedd y bleidlais, er nad yw honno’n orfodol.

Y cefndir

Fe gafodd Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ei ddiswyddo o’i swydd fel Ysgrifennydd Cymunedau fis Tachwedd y lynedd, a hynny pedwar diwrnod cyn iddo ladd ei hun.

Roedd wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn yn rhywiol yn ei erbyn. Ond mae rhai, gan gynnwys y cyn-weinidog Leighton Andrews, yn credu bod eraill yn gwybod am fwriad y Prif Weindiog, Carwyn Jones, i’w ddiswyddo o flaen llaw.

Mae’r ymchwiliad sy’n cael ei drafod yn y Senedd heddiw yn un o dri sydd wedi deillio o farwolaeth Carl Sargeant y llynedd.