Am y tro cyntaf mewn hanes, fe allai’r Wyddeleg ddod yn iaith swyddogol mewn cymunedau y tu allan i ardaloedd y Gaeltacht.

Mae pum cymuned wedi cael ei dewis i gyflwyno cais i Lywodraeth Iwerddon i gael eu cydnabod fel ardal o fewn “Rhwydwaith y Wyddeleg”.

Mae’n cynnwys cymunedau yng Ngogledd a Gweriniaeth Iwerddon – ym Melffast, Antrim, Galway, Loughrea, Carntogher, Derry, Clondalkin, Dulyn, Ennis a Clare.

Byddai’n golygu bod yr iaith yn cael cydnabyddiaeth a mwy o hawliau mewn ardaloedd sydd y tu allan i’r Gaeltacht traddodiadol – lle mae’r Wyddeleg yn cael ei siarad fel prif iaith.

Bydd ‘Rhwydwaith y Wyddeleg’ yn cael ei lansio heddiw ond mae disgwyl ei chyflwyno pan fydd Cynllun y Wyddeleg yn cael ei gytuno gan y Llywodraeth. Mae disgwyl i’r cynllun gael ei weithredu dros 5-7 o flynyddoedd.

Mae ymgyrch ar waith yn Iwerddon ar hyn o bryd i geisio annog pobol i ddefnyddio’r iaith bob dydd, ym mhob man, i bawb.