Mae’r Aelod Cynulliad newydd dros etholaeth Alyn a Glyndyfrdwy, Jack Sargeant, wedi dweud y bydd yn ceisio sicrhau “cyfiawnder” i’w dad.

Bu farw Carl Sargeant fis Tachwedd y llynedd, ac mae ymchwiliad ar y gweill i’r ffordd y cafodd ei drin pan gafodd ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.

Yn ei araith gyntaf yn Siambr y Cynulliad heddiw, mae Jack Sargeant wedi addo y bydd yn sicrhau bod yr ymchwiliadau i’r driniaeth a gafodd ei dad yn gwneud eu gwaith.

“Nid fi yw’r un yn y Siambr hon sydd eisiau gweld cyfiawnder i fy nhad,” meddai.

“Dw i’n gwybod o’r ymgyrch y gwnaethom ni ei rhedeg bod hyn yn deimlad nid yn unig ymhlith fy etholwyr, ond ledled Cymru hefyd.

“Yn ogystal â’m gwaith gwleidyddol yn y Siambr hwn, mi fydda’ i hefyd yn gweithio i sicrhau bod yr ymchwiliad sydd ar y ffordd yn archwilio sut cafodd fy nhad ei drin yn y cyfnod cyn ei farwolaeth.”

Talu teyrnged i’w dad

Ar ddechrau’r araith, fe wnaeth hefyd ddisgrifio ei dad fel y dyn a wnaeth ddangos iddo beth yw’r “math iawn o wleidydd”.

“Mae’n arferol i dalu teyrnged i’ch rhagflaenydd,” meddai eto. “ Dw i hefyd yn talu teyrnged i’r dyn yr o’n i’n ei alw yn Dad.

“Y dyn a safodd wrth fy ochr trwy fy mywyd, y dyn oedd yn cadw ein teulu ynghyd; y dyn a ddangosodd i fi fod y math iawn o wleidydd yn rhywbeth yr ydech chi’n ei wneud ym mhob ymwneud ac ym mhob amgylchiad…”

Adeiladu ar waith ei dad

Dywedodd hefyd y byddai’n “adeiladu” ar waith ei dad trwy leihau digartrefedd ymhlith pobol ifanc; brwydro yn erbyn trais ddomestig, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar “bobol go iawn” ei etholaeth.

“Does dim gwell deyrnged y galla’ i wneud i fy nhad na pharhau â’r gwaith y bu’n ei gwneud i’r bobol go iawn hynny yn Alyn a Glyndyfrdwy.”