Er bod “pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir”, mae tipyn o waith i’w wneud o hyd o ran ennill cydraddoldeb i fenywod yn San Steffan, yn ôl Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd.

Yn ôl Liz Saville Roberts – y 374 aelod benywaidd Tŷ’r cyffredin erioed – mae “gwahaniaeth amlwg” o hyd o ran cynrychiolaeth y ddwy ryw.

Yn dilyn etholiad cyffredinol y llynedd, mae 208 o 650 aelodau seneddol Tŷ’r Cyffredin yn fenywod, sef 32% – anghydraddoldeb na ellir ei wadu, meddai.

“Mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond maen nhw’n symud yn aruthrol o araf o feddwl ein bod ni ganrif yn ddiweddarach,” meddai wrth golwg360 gan gyfeirio at Ddeddf Gynrychiolaeth y Bobol 1918.

Ymchwiliadau

 2018 yn dilyn blwyddyn o honiadau o aflonyddu neu gamymddwyn rhywiol, honiadau o fwlio ac ymchwiliadau dadleuol, mae Liz Saville Roberts am weld newid i’r cyfeiriad hwn.

“Y cwestiwn ydi, a oes problem o fewn unrhyw blaid o ran delio gyda’r math yma o gwynion o fewn eu rhengoedd eu hunain? A sut mae delio efo nhw?” meddai.

“I unrhyw blaid, dylai fod yna fodd o symud ymlaen [gyda chwynion], ac er yr angen i ymchwilio i rywbeth yn drwyadl, dylai fod yna ddim oedi amhriodol.”