Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn dweud bod gan ddau o’i gyn-gydweithwyr broblem yn cydweithio a derbyn cyfarwyddyd gan fenywod.

Yn ôl Simon Thomas, roedd agwedd Dafydd Elis-Thomas a Neil McEvoy tuag at fenywod – a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru,  yn benodol – yn ei farn ef yn “annerbyniol”.

Mae’n dweud hyn wrth drafod gwahardd yn barhaol Neil McEvoy o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, ac mae’n mynnu nad oes “cynllwyn” yn erbyn AC Canol De Cymru, fel sydd wedi ei awgrymu.

Gadawodd Dafydd Elis-Thomas Blaid Cymru ym mis Hydref 2016 ac eistedd fel Aelod Annibynnol yn y Cynulliad, cyn cael swydd Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon gyda Llywodraeth Cymru.

“Synhwyro anniddigrwydd”

Dywed Simon Thomas, AC, dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ei fod yn “synhwyro anniddigrwydd” gan Dafydd Elis-Thomas a Neil McEvoy yn erbyn Leanne Wood.

 

“Dw i yn synhwyro yn hyn i gyd bod gan rai dynion broblem yn cydweithio gyda menywod, dw i’n meddwl bod hynna’n siomedig iawn,” meddai Simon Thomas

“Mae gennych chi dau aelod o’r Blaid sydd wedi gadael y grŵp gydag arweinydd benywaidd. Yn eu hagwedd nhw tuag at Leanne Wood, dw i’n synhwyro agwedd tuag at fenywod dw i ddim yn canfod yn dderbyniol.

“Dw i’n methu gweld beth oedd y rheswm arall… Dau ddyn oedd yn cael hi’n anodd iawn cydymffurfio gyda chyfarwyddiadau gan yr arweinydd.

“Nawr, fe wnes i sefyll yn erbyn Leanne. Ar y pryd doeddwn i ddim yn meddwl mai hi oedd yr arweinydd roeddwn i mo’yn ac roeddwn i’n cefnogi yn y pendraw, Elin [Jones] i fod yr arweinydd…

“Dw i jyst ddim yn gweld beth yw’r rheswm arall dros beidio cefnogi arweinydd sydd wedi’i hethol gan gymaint o gefnogaeth gan y Blaid.”

Mae Simon Thomas eisiau gweld Plaid Cymru yn “gweithio fel grŵp unedig” yn y Cynulliad o hyn allan, ac mae’n “gobeithio adennill rhai [aelodau] sydd wedi danto gyda ni.”

Ymateb Neil McEvoy

“Mae hyn yn ymosodiad diog, digynsail a phersonol arall,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360. “Y gefnogaeth sydd wedi’i rhoi i fi gan fenywod o bob cefndir yn ddiweddar yw’r ateb gorau i Simon Thomas,” meddai Neil McEvoy.

“Mewn bron pob cyfarfod grŵp y Cynulliad, fe wnes i hi’n glir fy mod i’n anhapus gyda’r Blaid yn gweithio mor agos â Llafur, achos nhw yw’r broblem yng Nghymru. Roedd e’n amlwg ddim yn gwrando.

“Bydden i’n annog Simon i gyfeirio ei dân at y Llywodraeth Lafur ddiffygiol ac nid cyd-aelodau o’r blaid fel fi.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Dafydd Elis-Thomas hefyd.

Carwyn Jones “wedi mynd erbyn yr haf”

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd yn darogan y gallai Carwyn Jones gael ei wthio o’i swydd yn Brif Weinidog Cymru erbyn yr haf eleni.

“… Mae e’n teimlo dan bwysau, does dim doubt gen i am hynny, dyna yw’r gred ar draws y Siambr,” meddai.

“… Mae’n amlwg bod y Blaid Lafur wedi tynnu nôl o unrhyw gwestiynu hyd yn oed y tu ôl i’r llenni, tra bod isetholiad i’w ymladd.

“… Fi’n teimlo ar ôl i’r isetholiad ddigwydd, a bydd o bosib mab Carl Sargeant, yn cael ei ddychwelyd fan hyn, fi’n credu y bydd y cwestiynau yma yn cael eu codi eto.

“Fi’n credu erbyn yr haf, bydd y Blaid Lafur wedi gorfod penderfynu ydyn nhw am hercian ymlaen gyda Phrif Weinidog sydd wedi anafu neu geisio cael llechen lân a cheisio cael Prif Weinidog newydd.”

Gwrandewch ar Simon Thomas yn dweud ei ddweud yn y podlediad: