Mae dirprwy arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud wrth senedd Isrel y bydd llysgenhadaeth y wlad yn symud i ddinas Jerwsalem “cyn diwedd 2019”.

Fe gafodd sylwadau Mike Pence groeso a chymeradwyaeth fawr gan y gwleidyddion, wrth iddo addo bwrw ymlaen gyda chynllun sydd wedi achosi wythnosau o brotestio ymysg Mwslimiaid.

Mae’r achos hefyd wedi rhoi proses heddwch y Dwyrain Canol yn y fantol.

“Mae’r Unol Daleithiau wedi dewis y ffeithiau tros ffuglen,” meddai Mike Pence, “a’r ffaith yw mai dyna’r unig sail i heddwch parhaol.

“Jerwsalem ydi prifddinas Isral, ac oherwydd hynny mae’r Arlywydd Trump wedi’n cyfarwyddo i wneud y paratoadau ar gyfer symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem,” meddai wedyn.

“Fe fyddwn ni’n agor y llysgenhadaeth newydd cyn diwedd y flwyddyn nesaf.”