Mae Plaid Cymru’n cefnogi deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcas.

Mae’r ddeiseb wedi cael ei threfnu gan Linda Joyce-Jones o Arfon, ac mae eisoes wedi casglu dros 6,000 o lofnodion.

Fe gychwynnodd hi’r ddeiseb oherwydd bod ganddi ddim ffydd yn Llywodraeth Cymru i wahardd “y drefn hanesyddol”.

Yn wir, dim ond ym mis Rhagfyr y llynedd y gwnaeth y Llywodraeth gyhoeddi y byddan nhw’n cyflwyno cynllun trwyddedu, yn hytrach na gwaharddiad – er gwaetha’r ffaith bod arweinydd y Blaid Lafur ym Mhrydain, Jeremy Corbyn, o blaid gwaharddiad llwyr.

Llywodraeth Cymru’n “methu’r pwynt”

Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Arfon, Siân Gwenllïan, mae sawl un yn bryderus y bydd Cymru yn cael ei gadael “ar ei ôl” oherwydd hyn, wedi i’r Alban wahardd y drefn eisoes, ac wrth i Loegr symud i’r un cyfeiriad.

“Trwy gyflwyno cynllun trwyddedu cynhwysfawr”, meddai, “mae Llywodraeth Cymru i’w weld yn methu’r pwynt – sef yr angen i warchod anifeiliaid gwyllt rhag creulondeb, llwgu a cham-drin trwy wahardd eu defnydd mewn syrcas.”

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru yr wythnos nesaf