Mae tri unoliaethwr amlwg yng Ngogledd Iwerddon wedi galw am gynnal refferendwm ar ddeddf i ddiogelu’r Wyddeleg erbyn yr haf.

Dylai cyfreithloni priodasau o’r un rhyw a llacio cyfreithiau erthylu y wlad fod yn destun refferendwm hefyd, yn ôl y tri oedd yn rhan o’r trafod ar Gytundeb Belffast yn 1998.

Mae anghytuno wedi bod dros gyflwyno deddf swyddogol i ddiogelu’r Wyddeleg a hynny sydd wedi atal y trafodaethau rhannu grym rhag datblygu.

Bellach, mae’r tri unoliaethwr – David McNarry, Michael McGimpsey a David Campbell – wedi lansio eu cynnig er mwyn ceisio symud y trafod yn ei flaen.

Does dim llawer o symud wedi bod ar y trafodaethau ers i’r Llywodraeth dorri lawr yno ym mis Mawrth y llynedd.

Ond daeth y newyddion heddiw bod y trafodaethau wedi ail-ddechrau rhwng y DUP a Sinn Féin a bod disgwyl iddyn nhw bara pythefnos.

Mae’r cwestiynau posib ar gyfer refferendwm ym mis Mai neu fis Mehefin yn cynnwys:

  • A ddylai Gogledd Iwerddon gael deddf annibynnol i’r Wyddeleg?
  • A ddylai cyplau o’r un rhyw gael yr hawl i briodas sifil yng Ngogledd Iwerddon?
  • A ddylai cyfraith Gogledd Iwerddon gael ei newid i ganiatáu erthyliad pan fo diagnosis mewn beichiogrwydd yn dangos bod y ffoetws yn dioddef o nam angheuol?
  • A ddylai cyfraith Gogledd Iwerddon gael ei newid i ganiatáu erthyliad pan fo menyw yn beichiogi o ganlyniad i drosedd rhywiol gan gynnwys cael ei threisio neu losgach?