Mae senedd newydd Catalwnia wedi cyfarfod, er nad yw hi’n gwbwl glir eto pa ran y bydd gwleidyddion sydd un ai yng ngharchar neu’n methu dychwelyd i’w gwlad, yn ei chwarae yn y drefn.

Mae’r cyn-arlywydd, Carles Puigdemont, sydd wedi dianc i wlad Belg ers mis Hydref y llynedd er mwyn osgoi achos llys yn Sbaen, wedi galw am ei job yn ol.

Ond os y bydd yn dychwelyd i Gatalwnia, fe fydd yn cael ei arestio gan awdurdodau Sbaen. At hynny, mae’n wynebu nifer o rwystrau os yw’n gobeithio y bydd ei senedd ranbarthol yn pleidleisio drosto i arwain, ac yntau’n byw dramor.

Mae saith cadair wag yn y cyfarfod heddiw – pedair ohonyn nhw’n eiddo i gyn-aelodau cabinet y llywodraeth sy’n wynebu achosion yng Ngoruchaf Lys Sbaen – a thri aelod arall etholedig sy’n cynnwys y cyn-ddirprwy arlywydd, Oriol Junqueras, sydd wedi’u cyhuddo o ysgogi gwrthryfel.