Mae arlywydd Ffrainc wedi ymweld â chanolfan ar gyfer ffoaduriaid, wrth iddo baratoi i bwyso ar wledydd Prydain i wneud mwy i helpu i ddelio â’r bobol sy’n glanio yn Calais yn y gobaith o groesi’r Sianel.

Fe fu Emmanuel Macron yn siarad â rhai ffoaduriaid o Sudan yn y ganolfan yn Croisilles, sy’n gartref i 63 o bobol, cyn galw ar yr awdurdodau yn ei wlad ei hun am fesurau i gyflymu’r gwaith o ‘brosesu’ y rheiny sy’n cytuno i wneud cais am loches yn Ffrainc.

Ar hyn o bryd, mae bron i 70% o’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd y gwersyll yn Croisilles yn gadael cyn ffeilio unrhyw waith papur yn Ffrainc.

Fe fydd Emmanuel Macron yn teithio i Calais yn ddiweddarach heddiw, cyn cyfarfod Theresa May ddydd Iau er mwyn ceisio dod i gytundeb ynglyn â sut i osod ffin rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn Calais.