Mae un o gwnstabliaid Heddlu Northumbria wedi ymddiheuro am gyhoeddi neges ar wefan Twitter yn cysylltu’r tân diweddar mewn maes parcio yn Lerpwl gyda thrychineb Hillsborough yn 1989.

Derbyniodd yr heddlu nifer o gwynion ar ôl i Curtis Ritchie drydar y neges, “Ydyn nhw wedi dechrau beio’r heddlu eto?”

Roedd y neges yn cyfeirio at yr honiadau – sydd bellach wedi’u profi i fod yn ddi-sail – mai cefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl oedd yn gyfrifol am drychineb yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield a laddodd 96 o bobol, ond eu bod wedi beio’r heddlu.

Yn y tân ym maes parcio’r Echo Arena yn Lerpwl nos Galan, fe gafodd hyd at 1,600 o geir eu dinistrio, ac mae disgwyl i gostau yswiriant yn sgil y digwyddiad fod yn uwch na £20m.

Mewn un neges yn ymateb i’r sylwadau, gofynnodd yr awdur, “A wnewch chi ofyn i PC Curtis Ritchie (8873) i ymhelaethu i bobol Lerpwl ar ei sylwadau diweddar, ac yn enwedig i deuluoedd y 96?”

Nid yw’r cwnstabl dan sylw wedi’i enwi’n swyddogol gan yr heddlu, ond yn ôl llefarydd, mae wedi ymddiheuro ac yn derbyg nad oedd y sylwadau’n “dderbyniol”.

Mae’r llefarydd yn dweud fod y cwnstabl hefyd “wedi derbyn cyngor” yn sgil ei sylwadau.