Mae Arlywydd Uganda wedi arwyddo deddf newydd sy’n cael gwared â’r cyfyngiad oedran ar bobol sy’n arwain y wlad.

Mae hyn y gall Yoweri Museveni, sy’n 73 oed, barhau’n arlywydd a sefyll eto yn yr etholiadau yn 2021.

O dan y drefn flaenorol, doedd dim hawl gan bobol iau na 35 oed na hŷn na 75 oed ddod yn arlywyddion.

Ond nawr gall Yoweri Museveni barhau’n arlywydd tan o leiaf 2031, ac mae’n un o’r arweinwyr sydd wedi gwasanaethu hwyaf yng ngwledydd Affrica.

Herio’r ddeddf

Mae rhai wedi beirniadu’r mesur a’i ddisgrifio’n ymgais ganddo yntau i barhau’n arlywydd tan ei farwolaeth.

“Bydd y ddeddf hon yn parhau’n ddirfawr amherthnasol am ei bod wedi’i chymeradwyo yn erbyn dymuniad y rhan fwyaf o bobol Uganda,” meddai llefarydd ar ran mudiad Clymblaid Dinasyddion tros Ddemocrtiaeth Etholiadol yn y wlad.

Mae’r llefarydd yn ychwanegu y bydd y ddeddf yn cael ei herio yn y llysoedd.