Mae disgwyl i Aelodau Seneddol gael codiad cyflog o 1.8% ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, sy’n golygu y byddan nhw’n derbyn £77,379 y flwyddyn o hynny allan.

Mae’r codiad yn unol â’r newid blynyddol yn y sector cyhoeddus.

Mae IPSA (yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol) yn dweud y byddai’r swm terfynol yn ddibynnol ar p’un ai fydd y Swyddfa Ystadegau’n addasu’r amcangyfrif ar sail adolygiad sydd i’w gynnal yn Chwefror, 2018.

Pe bai’n cael ei dderbyn, fe fyddai’r codiad cyflog bron ddwywaith y cap blynyddol ar y rhan fwyaf o weithwyr y sector cyhoeddus dros y saith mlynedd diwethaf.

Ond mae awgrym bellach fod Llywodraeth Prydain yn barod i lacio’r cap, er bod y ffigwr yn is na lefel chwyddiant, sydd ar hyn o bryd yn 3.1% – y lefel uchaf ers chwe blynedd.

Codiadau cyflog y gorffennol

Cafodd Aelodau Seneddol godiad cyflog o 1.4% eleni, fel eu bod yn derbyn £76,011.

Fe gawson nhw godiad cyflog o 1.3% y llynedd.

Pe bai’r cynnig diweddaraf yn cael ei dderbyn, fe fydd Aelodau Seneddol wedi gweld cynnydd o 17.7% yn eu cyflog ers i’r Ceidwadwyr gyflwyno mesurau llymder yn 2010.

Mae’r mesurau wedi golygu rhewi cyflogau’r sector cyhoeddus ar adegau.