Fydd Prif Weinidog Cymru ddim yn ymddangos ar raglen banel y BBC, Question Time, o Abertawe heno.

Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Carwyn Jones mai yr Aelod Seneddol Owen Smith fydd yn cymryd ei le, wedi i arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru dynnu’n ôl oherwydd “rhesymau teuluol”.

Roedd Carwyn Jones wedi ei enwi fel un o’r panelwyr ar ddiwedd rhaglen nos Iau diwethaf, ond wrth i’r BBC hyrwyddo rhaglen yr wythnos hon, fe ddaeth hi’n glir nad oedd enw Carwyn Jones bellach ar y rhestr.

Ar hyn o bryd mae’r Prif Weinidog yn wynebu ymchwiliad i’w ymddygiad ynghylch diswyddiad â marwolaeth y cyn-Weinidog Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Mae Carwyn Jones eisoes wedi’i feirniadu am ganiatáu “mân fwlio” ac  “awyrgylch wenwynig” yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Abertawe

Bydd y rhaglen Question Time yn cael ei darlledu’n fyw o Abertawe ar BBC1, a bydd y panel yn cynnwys Liz Saville Roberts o Blaid Cymru a Bernard Jenkin o’r Blaid Geidwadol.

Hefyd ar y panel fydd y darlledwr Richard Bacon, a Kate Andrews o’r Sefydliad Materion Economaidd.