Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi’r gorau i’r ymchwiliad i gamymddwyn rhywiol honedig cyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant.

Cafwyd hyd i gorff yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy ar Dachwedd 7, bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’r Cabinet yn dilyn honiadau yn ei erbyn.

Yn dilyn ei farwolaeth, mae’r Blaid Lafur bellach o’r farn “nad yw’n bosibl dwyn ein hymchwiliad ymlaen yn unol â’n gweithdrefnau,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid, Iain McNicol.

Cwyn

Dywedodd teulu Carl Sargeant nad oedd e wedi cael gwybod beth oedd natur yr honiadau, ond fe gafodd ei gyhuddo o “roi sylw diangen a chyffwrdd amhriodol”.

Mewn llythyr a gafodd ei anfon at gyfreithiwr y teulu, eglurodd y Blaid Lafur fod cwyn wedi ei derbyn ar y diwrnod y cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna.

Mae’r Blaid Lafur yn dweud y byddan nhw’n cydymffurfio ag ymchwiliad y crwner i’w farwolaeth.

Tra bod rhai aelodau’r Blaid Lafur wedi bod yn galw am roi’r gorau i’r ymchwiliad, roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ymhlith y rhai oedd yn galw am sicrhau “cyfiawnder i’r holl bobol oedd ynghlwm” â’r mater.