Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud ei fod yn “sefyll yn erbyn” Britain First ar ôl i Donald Trump rannu fideos o gyfrif Twitter un o aelodau blaenaf y grŵp hiliol.

Ond wrth ddweud bod angen bod yn “critical friend” i’r Unol Daleithiau, dywedodd Alun Cairns ei bod hi’n bwysig parhau i gydweithio ag America dan arweinyddiaeth Donald Trump.

Roedd yn siarad â golwg360 ac yn trafod os dylai ymweliad yr Arlywydd i Brydain flwyddyn nesaf gael ei ganslo yn dilyn y fideos ymfflamychol wnaeth e ail-drydar.

“Yn amlwg, rydyn ni’n sefyll yn gwbl yn erbyn unrhyw beth mae Britain First yn sôn amdano ac felly dydyn ni ddim eisiau rhoi unrhyw fath o gyhoeddusrwydd iddyn nhw,” meddai.

“Mae’r gwahoddiad wedi cael ei estyn i’r Arlywydd Trump… rydyn ni’n derbyn arweinyddion o ledled y byd o gymaint o wahanol ddiwylliannau ac felly mae’n hollbwysig bod ni’n dal i gydweithio gydag America ar gymaint o bethau ond hefyd i ddweud ein barn ar bethau eraill.

“Mae ffrindiau da yn rhoi newyddion weithiau sy’n fwy anodd i dderbyn a dyna beth yw gwir ffrindiau a dyna yw’r math o berthynas sydd rhwng America a’r Deyrnas Unedig.”

Dywedodd wedyn fod angen bod yn “critical friend” i’r Unol Daleithiau.

Carwyn Jones yn cefnogi Theresa May

Mae Alun Cairns a dirprwy Theresa May, Damian Green, yng Nghaerdydd heddiw i drafod Brexit gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn y cyfarfod, mae’n debyg i Carwyn Jones “fynegi ei gefnogaeth” i Theresa May “yn ei beirniadaeth o’r Arlywydd Trump”.

“Roedd cytundeb ymysg pawb oedd yn bresennol nad oedd dim lle i oddef lledaenu propaganda casineb o unrhyw fath,” meddai datganiad Llywodraeth Cymru.