Mae arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhybuddio rhag i drafodaethau newydd roi’r argraff fod y sefydliad yn “fagwrfa” i aflonyddu rhywiol, pan nad yw hynny’n wir o gwbwl.

Fe ddaw sylwadau Neil Hamilton wrth i arweinwyr yr holl bleidiau ym Mae Caerdydd ddod ynghyd heddiw i drafod gweithdrefnau newydd i fynd i’r afael â honiadau posib o aflonyddu rhywiol.

“Tra bod unrhyw sefydliad dynol yn debygol o lochesu achosion o ymddygiad rhywiol amhriodol neu waeth,” meddai Neil Hamilton, “ni ddylen ni adael i’r syniad fod Bae Caerdydd yn fagwrfa i aflonyddu rhywiol fagu coesau, oni bai bod tystiolaeth gadarn o achosion go iawn yn cael ei chyflwyno.”

San Steffan

Yn ei ymateb, mae Neil Hamilton hefyd yn cyfeirio at achosion diweddar o aflonyddu rhywiol yn San Steffan – gan gynnwys ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Syr Michael Fallon, oedd wedi cyfaddef iddo gyffwrdd â choes newyddiadurwraig yn ystod cyfweliad.

“Mae’r helynt yn San Steffan yn ymwneud, ar y cyfan, â honiadau hanesyddol,” meddai Neil Hamilton.

“Mae’r rheiny naill ai wedi cael eu gwadu neu eu chwyddo y tu hwnt i synnwyr, fel achos Julia Hartley-Brewer a Michael Fallon, yr oedd hithau wedi’i ddiystyru.”

‘Cymhleth, dryslyd ac annigonol’

Ond fe ddywedodd fod gweithdrefn bresennol y Cynulliad “yn gymhleth, yn ddryslyd a rhai agweddau’n annigonol”.

“Tra ei bod yn synhwyrol, wrth gwrs, i’r Cynulliad adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer mynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol gan Aelodau’r Cynulliad, dw i ddim yn ymwybodol o dystiolaeth o achosion go iawn.

“Does neb o blith ACau UKIP wedi bod yn destun cwynion o ymddygiad rhywiol amhriodol ond, yn amlwg, alla i ddim siarad ar ran pleidiau eraill.”

Ychwanegodd ei fod yn “hapus i ystyried gwelliannau i’r drefn bresennol o gwynion”.