Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Yn gyntaf, Ceredigion…

Gellir dadlau taw Ceredigion yw’r sedd fwyaf ymylol yng Nghymru. Dim ond 219 pleidlais o fantais oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol dros Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2005, a does dim arwydd clir o bwy sy’n debygol o fynd a hi y tro yma.

Mae’r etholaeth yn un wledig, efo cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, a chyfran uwch na’r cyffredin o fyfyrwyr prifysgol a phreswylwyr sydd wedi cael addysg prifysgol.

Mae’n debygol fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol fantais yn sgil y miloedd o fyfyrwyr prifysgol sydd yno, gan fod y blaid yn draddodiadol wedi mwynhau cefnogaeth gan gyfran fawr ohonyn nhw.

Er hyn, mae’r blaid wedi cael ei beirniadu gan undebau myfyrwyr ar ôl cyhoeddi na fyddent yn cael gwared ar ffioedd dysgu yn syth petawn nhw’n dod i rym.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd y fantais o fod â’i gafael ar y sedd, ac o fwynhau mwy o gefnogaeth ariannol na Phlaid Cymru. Yn ogystal, maen nhw’n rhannu grym efo’r Annibynwyr ar y cyngor sir.

Ond dyma sedd rhif un ar restr targedi Plaid Cymru, a gafodd eu beirniadu’n hallt am ei cholli yn y lle cyntaf yn 2005.

Yn ogystal, mae gan Blaid Cymru y fantais o fod yn rhan o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, ac o boblogrwydd AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones.

Mark Williams

Mae Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, Mark Williams, wedi dweud wrth golwg360 fod y frwydr yn mynd i fod yn un agos, ond fod hynny yn mynd i olygu “lles mawr i ddemocratiaeth”.

“Bydd rhaid i’r enillydd weithio’n galed i ennill” meddai, ac mae hynna’n “dda i’r system.”

Dywedodd fod polisïau’r ddwy blaid yn debyg mewn rhai agweddau, pan ddaw hi at wasanaethau cyhoeddus a datganoli.

Ond dywedodd taw’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n fwy tebygol o allu bod yn effeithiol yn y Senedd yn Llundain. Honnodd fod Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn gallu cael eu “gwthio i’r ochor yno”, yn sgil y nifer fechan sydd ohonyn nhw.

Dywedodd ei fod wedi bod yn weithgar yn yr etholaeth, a heurodd ei fod ef wedi bod yn fwy diwyd yn Nhŷ’r Cyffredin nac y mae Aelodau Seneddol o Blaid Cymru wedi bod.

Ynglŷn â chefnogaeth myfyrwyr a’r mater o ffioedd dysgu, dywedodd Mark Williams fod polisi’r blaid yn “dal yn glir.”

Dywedodd fod y blaid wedi “ymroi i’r egwyddor” o gael gwared o ffioedd dysgu, ond yn sgil y trafferthion economaidd, mi fyddai hyn yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd.

Rhaid bod yn “gyfrifol” meddai, ac mae’n credu y “byddai pobol yn derbyn hyn”.

Penri James

Penri James yw ymgeisydd Plaid Cymru, ac mae wedi dweud wrth golwg360 fod gan etholwyr Ceredigion “ddewis go iawn”.

Mae’n dweud y byddai ef, fel ymgeisydd Plaid Cymru yn “rhoi blaenoriaeth i anghenion Ceredigion a Chymru” yn San Steffan.

Mae hyn yn wahanol meddai, i Aelod Seneddol o’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd ond “yn un o nifer yn San Steffan,” lle mae “anghenion Ceredigion a Chymru yn cael ei foddi gan bleidiau Llundain.”

Nid yw’n derbyn meddai, fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogaeth draddodiadol ymhlith y myfyrwyr.

Honnodd taw rhyfel Irac a ffioedd dysgu oedd y pynciau llosg a allai fod wedi sbarduno’r myfyrwyr i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005.

Ond mae’n credu fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn “arwynebol iawn”, a bod dim byd ganddyn nhw i “danio’r myfyrwyr” y tro yma.

I’r gwrthwyneb, meddai, mae myfyrwyr wedi “dangos diddordeb” yn ei bolisïau ynni gwyrdd ef.

Cyhuddodd y Democratiaid Rhyddfrydol o ganolbwyntio ar ymosod ar Blaid Cymru yn hytrach nac “annog eu polisïau eu hunain.”

Yn ogystal, rhybuddiodd yn erbyn taflenni canfasio camarweiniol Mark Williams, sydd, honnodd, yn “lliwio’r gwir.”

Roedd yn annog yr etholwyr i edrych ar record y pleidiau.

Yr ymgeiswyr am sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Mark Williams Democratiaid Rhyddfrydol
Penri James Plaid Cymru
Leila Kiersch Y Blaid Werdd
Luke Evetts Y Ceidwadwyr
Richard Boudier Llafur
Mike Wieteska UKIP

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Democratiaid Rhyddfrydol – Mark Williams
  • O sawl pleidlais: 219
  • Nifer yr etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 2005: 53,776
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 35,947

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Democratiaid Rhyddfrydol 13,130 36.5
Plaid Cymru 12,911 35.9
Y Ceidwadwyr 4,455 12.4
Llafur 4,337 12.1
Y Blaid Werdd 846 2.4
Veritas 268 0.7