Mae arddangosfa yn Abertawe yn adrodd hanes rhai o’r gwledydd sy’n rhan o Senedd Ewrop ym Mrwsel.

Ymhlith y casgliad o bosteri gwleidyddol sydd i’w weld ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, mae posteri Plaid Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n gadael y ddinas ar Hydref 30, ac yn parhau â’i thaith drwy Ewrop.

Abertawe yw’r unig ddinas yng ngwledydd Prydain sydd wedi rhoi cartref dros dro i’r arddangosfa.

Beth yw ImagiNation?

Mae arddangosfa ImagiNation yn olrhain brwydrau gwleidyddol, lleiafrifol a rhanbarthol dros ymreolaeth ac annibyniaeth ym mhob cwr o Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r posteri’n egluro beth sydd wedi ysbrydoli a sbarduno mudiadau gwleidyddol mewn gwledydd fel Cymru, yr Alban, Catalwnia a Chorsica.

Mae 10 thema ganolog i’r posteri – o hunanbenderfyniad i gyfiawnder ieithyddol, o gyfiawnder cymdeithasol i undod rhyngwladol.

Arbenigwyr, ysgolheigion ac ymgyrchwyr hawliau sydd wedi rhoi’r arddangosfa at ei gilydd.

Nod yr arddangosfa yw cyfleu’r syniad o Ewrop lle mae ei phobloedd amrywiol i gyd yn rhydd.