Mark Drakeford (Llun: Flickr Cynulliad)
Mi fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb daro bargen yn “fethiant trychinebus”, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

Mae Mark Drakeford hefyd yn nodi bod adroddiadau na fydd bargen yn “codi braw”, a byddai cefnu ar drafodaethau Brexit yn cael “effaith enbyd” yn economaidd ac yn gymdeithasol.

“Mae Ewrop yn un o’n partneriaid masnachu mwyaf, a’n cymydog agosaf ac rydyn ni’n rhannu ffin â nhw,” meddai.

“Ni all ein rhwymau economaidd gael eu torri’r diwrnod y byddwn ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

Taith i Frwsel

Daw ei sylwadau wrth iddo baratoi i gyfarfod â thrafodwr Senedd Ewrop ar Brexit, Guy Verhofstadt, ym Mrwsel ddydd Mawrth (Hydref 17).

Yn ystod ei ymweliad deuddydd o hyd, bydd yn tynnu sylw at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit – gan gynnwys pwysigrwydd cadw mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl.