Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi cadarnhau heddiw nad yw Llywodraeth Cymru wedi “lliniaru dim” ar eu gwrthwynebiad i’r Mesur Ymadael.

Mae’r Mesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi’i feirniadu fel ymgais i gipio pwerau oddi wrth  y cenhedloedd datganoledig yn rhan o drafodaethau Brexit.

Ond yn ôl Mark Drakeford – “fe wnaethom ni gytuno ar yr egwyddorion a fydd yn sail i unrhyw fframweithiau, ond nid yw hynny’n golygu ein bod wedi lliniaru dim ar ein gwrthwynebiad i’r Mesur Ymadael.”

‘Cyfarfod adeiladol’

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogion yn Llundain gyda chynrychiolwyr o’r Alban a Gogledd Iwerddon yno hefyd.

Ychwanegodd fod y pwyllgor wedi cael “cyfarfod adeiladol” a’i fod yn “gyfle gwirioneddol” i drafod safbwynt Llywodraeth Prydain wrth iddyn nhw negodi gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan gadarnhaol yn y trafodaethau sydd i ddod,” meddai wedyn.

Yn rhan o’r cyfarfod hefyd oedd Damian Green, Prif Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain ac mae disgwyl i’r cydbwyllgor gwrdd eto cyn y Nadolig.