Llun: PA
Bydd gweinidogion o wledydd datganoledig y Deyrnas Unedig yn ymgynnull yn Llundain ddydd Llun (Hydref 16) er mwyn trafod Brexit.

Dyma fydd y cyfarfod cyntaf gan y Cydbwyllgor Gweinidogion ers wyth mis, a’i nod yw galluogi Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fedru cyfrannu at broses Brexit.

Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford; Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell; a Phennaeth Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, David Sterling; oll yn bresennol.

Hefyd yn y cyfarfod fe fydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damien Green, sydd wedi mynnu ei fod eisiau i’r drafodaeth fod yn “bositif ac yn adeiladol.”

“Buddiannau Cymru”

“Mae Brexit yn mynd i effeithio’n helaeth ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig – dyna pam fod angen adeiladu consensws eang,” meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

“Mae’r cyfarfod heddiw yn gyfle i ailosod y berthynas waith, a chynnwys y gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu safbwynt negodi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

“Rydyn ni wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer Cymru ar ôl Brexit yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru – ac am ddefnyddio’r cyfarfod heddiw i sicrhau fod blaenoriaeth yn cael ei roi i fuddiannau Cymru.”